Sicrhau fframwaith effeithiol i amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol
Mae diogelu a hyrwyddo cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i'n rôl, ynghyd â darparu sylfaen dystiolaeth gref a dibynadwy ar y materion cydraddoldeb a hawliau dynol mwyaf brys.
Ein gwaith
Mesur Ymfudo Anghyfreithlon
Yn 2023, cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Ymfudo Anghyfreithlon i’r Senedd. Cyhoeddom ddatganiad yn nodi ein safbwynt ar y ddeddfwriaeth arfaethedig.
Deddf Hawliau
Yn 2022, gwnaethom ymateb i gynigion y Llywodraeth yn y Ddeddf Hawliau i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol.
Cynllun busnes 2023/24
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan flaenoriaeth y Fframwaith Cyfreithiol Effeithiol rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.
Hyrwyddo’r dealltwriaeth o, a chydymffurfiaeth â, chyfraith hawliau dynol a chydraddoldebau. Yn cynnwys ymateb i dramgwyddo difrifol a/ neu systemig, lle nad yw’n syrthio o fewn cylch gwaith un o’n meysydd ffocws eraill
Ein nod hirdymor:
Sicrhau nad yw unigolion yn profi gwahaniaethu na thramgwydd o’u hawliau.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- weithio gyda’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb ac asiantaethau eraill er mwyn olrhain gwybodaeth ac atgyfeiriadau cyfreithiol
- ymateb i adroddiadau cytuniadau’r Cenhedloedd Unedig yr oedd eu hangen yn 2023/24
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gydweithio ar brosiectau sy’n ehangu capasiti cymdeithas sifil i ymgysylltu â gwaith rhyngwladol ar hawliau dynol
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol o flaen llaw a diogelu hawliau dynol trwy egluro neu sefydlu profion cyfreithiol pwysig, cryfhau’r dehongliad o gyfraith hawliau dynol rhyngwladol mewn cyfraith achos yn y DU a hyrwyddo cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â chyfraith hawliau dynol
- adnabod achosion y maen angen i ni ymateb iddynt a’u cefnogi trwy ein Cronfa Cefnogi Hil
Defnyddio ysgogiadau rheoleiddiol, gan gynnwys y PSED, i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’u dyletswyddau mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol
Ein nod hirdymor:
Sicrhau nad yw unigolion â nodweddion gwarchodedig o dan anfantais yn ddiangen.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- werthuso effaith gweithrediad y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru a’r Alban
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban ar ddyletswyddau penodol y PSED, ac adolygu ein canllawiau yn seiliedig ar unrhyw newidiadau
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- hyrwyddo canfyddiadau ein gwaith er mwyn deall effaith y PSED a hyrwyddo cydymffurfiaeth bellach â’r ddyletswydd trwy arweiniad, cyngor a hyfforddiant
- monitro cynllun y Swyddfa Gartref i wella’u cydymffurfiaeth â’r PSED
- cysylltu â chyrff sydd newydd eu rhestru yn yr Alban o dan y PSED i sicrhau eu bod yn ymgorffori ystyriaethau a chydymffurfiaethau cydraddoldeb o’r cychwyn cyntaf
- datblygu memorandwm gyda’r Scottish Funding Council i symud cydraddoldeb yn ei flaen mewn addysg uwch ac addysg bellach
- cefnogi archwiliad HMI Prosecutions (yr Alban) o bolisi ac arfer Swyddfa’r Goron a’r Gwasanaeth Caffael Cyllidol ar dystiolaeth yn ymwneud â thystiolaeth o hanes rhywiol
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- ganolbwyntio ar ymddygiadau difrifol a systemig sy’n tramgwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwella cydraddoldeb cyfle ac yn gwireddu eu dyletswyddau mewn perthynas â’r PSED
Darparu cyngor i lywodraethau a rhanddeiliaid gyda’r bwriad o gynnal a chryfhau’r fframweithiau cydraddoldeb a hawliau dynol cyfreithiol
Ein nod hirdymor:
Cryfhau’r fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol cyfreithiol sy’n diogelu pobl rhag gwahaniaethu a thramgwydd o’u hawliau, a bod gan unigolion fynediad i iawn.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynnal gwaith pellach er mwyn ennyn gwell eglurdeb o’r Ddeddf Cydraddoldeb
- cynghori llywodraethau ynghylch sut i sicrhau bod y fframwaith gyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael ei chynnal a, lle bo’n bosibl, ei chryfhau
- cynghori Llywodraeth yr Alban trwy hynt y Bil Casineb at Fenywod a Chyfiawnder Troseddol
- cynghori llywodraethau Prydain wrth i gynigion godi ynghylch ymgorffori cytuniadau hawliau dynol
- ymgysylltu ag ymchwiliadau cyhoeddus penodol, megis yr ymchwiliad Sheku Bayoh
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- adolygu a diweddaru ein Cod Ymarfer statudol sy’n ymwneud â gwasanaethau, swyddogaethau a gwasanaethau cyhoeddus a chanllawiau perthynol
Darparu data a thystiolaeth hygyrch o ansawdd uchel i lywodraethau a rhanddeiliaid mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain Fawr
Ein nod hirdymor:
Lleihau anghydraddoldeb trwy weithredoedd llywodraethau, awdurdodau lleol ac eraill i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn rhoi tystiolaeth o’r materion trwy:
- gyhoeddi ein Adroddiad Statudol ar ddatblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol ers 2018, a chynnyrch cysylltiedig, gan gynnwys adroddiadau cenedl i Gymru a’r Alban
- diweddaru ein strategaeth monitro hawliau dynol
- dilyn i fyny ar yr arolwg o agweddau cyhoeddus at hawliau dynol
- gweithio gyda phartneriaid i ddwyn eglurdeb a darparu cyngor ynglŷn â chasglu data ar nodwedd warchodedig rhyw
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ddatblygu ein traciwr hawliau dynol fel teclyn ar gyfer dal llywodraethau i gyfrif ynglŷn â’u hadrodd ar hawliau dynol