Mynd i'r afael ag effaith gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol

Gall ffocws cynyddol ar wasanaethau digidol greu perygl o wahaniaethu yn erbyn ac eithrio pobl na allant gael mynediad iddynt. Mae systemau sy'n seiliedig ar ddysgu peirianyddol ac algorithmau yn newid sut mae sefydliadau'n recriwtio staff, yn gwneud penderfyniadau ac yn darparu gwasanaethau. Mae gan y technolegau hyn y potensial i ddod â buddion, ond maent hefyd yn peri risgiau i gydraddoldeb a hawliau dynol.

image

Ein gwaith

computer source code

Deallusrwydd Artiffisial mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Yn 2022, lansiwyd canllawiau gennym sy’n rhoi trosolwg o beth yw deallusrwydd artiffisial ac sy’n rhoi cyngor ar sut mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol pan fydd corff cyhoeddus yn defnyddio deallusrwydd artiffisial. Gall yr egwyddorion o hyn hefyd gael eu cymhwyso'n ehangach gan sefydliadau yn y sector preifat a gwirfoddol.

Cynllun busnes 2023/24

Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth Gwasanaethau Digidol a Deallusrwydd Artiffisial rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.

Mynd i’r afael â niwed ar-lein, gan gynnwys bwlio, gwahaniaethu, a chamdriniaeth a brofir gan bobl â nodweddion gwarchodedig, tra’n diogelu’r hawl i ryddid mynegiant 

Ein nod hirdymor:

Sicrhau bod yr hawl i ryddid mynegiant ar-lein yn cael ei ddiogelu tra hefyd yn sicrhau ymdriniaeth o aflonyddu a gwahaniaethu yn erbyn grwpiau â nodweddion gwarchodedig.

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • ddarparu cyngor yn ystod hynt y Bil Diogelwch Ar-lein trwy’r Senedd, a thrwy weithio gyda rheoleiddwyr ac eraill i gynghori llywodraethau ar reoleiddio’r cyfryngau cymdeithasol a chwilotwyr

Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:

  • gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo a diogelu hawliau’r rheini sy’n profi niwed ar-lein
black iphone 4 on brown wooden table

Sicrhau bod darparwyr gwasanaethau digidol yn galluogi’r cynhwysiant mwyaf posibl a mynd i’r afael â gwahaniaethu o ganlyniad i allgau digidol fel bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb 

Ein nod hirdymor:

Ymgysylltu â darparwyr er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl, wrth i ddarpariaeth ddigidol gynyddu.

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:

  • wella tystiolaeth yn ymwneud ag effaith gweithredu i orfodi cydymffurfiaeth y sector cyhoeddus â Rheoliadau Mynediad i’r We 

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • gynghori llywodraethau’r DU a’r Alban a darparwyr gwasanaethau i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn a phobl anabl mewn amgylchedd ‘digidol yn bennaf’

Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:

  • ddatblygu adnoddau ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint er mwyn gwella’u dealltwriaeth o’r ddyletswydd i wneud newidiadau rhesymol mewn lleoliadau gweithio hybrid, a thrwy gynyddu ymwybyddiaeth cyflogeion o’r hawliau hynny
  • gweithio gyda’r Swyddfa Digidol a Data Canolog i orfodi cydymffurfiaeth y sector cyhoeddus â Rheoliadau Mynediad i Wefannau 
  • cefnogi gweithrediad a chydymffurfiaeth â Safonau Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru
a group of computers

Cymryd camau cyfreithiol fel nad yw’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial (AI) wrth recriwtio neu mewn arferion cyflogaeth eraill yn creu rhagfarn mewn perthynas â gwneud penderfyniadau nac yn tramgwyddo hawliau dynol 

Ein nod hirdymor:

Sicrhau nad yw cyflogeion a darpar gyflogeion yn profi gwahaniaethu na thramgwyddo’u hawliau dynol oherwydd cymhwyso AI yn y gweithle. 

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:

  • ymchwilio i’r defnydd o AI mewn arferion recriwtio er mwyn llunio opsiynau ar gyfer gweithgarwch pellach

Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:

  • gymryd camau cyfreithiol, lle bo’n briodol, er mwyn diogelu hawliau’r rheini sy’n destun defnydd annheg o AI wrth recriwtio ac mewn arferion cyflogaeth eraill
person using black laptop computer

Dylanwadu ar fframweithiau rheoleiddio er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol wedi eu hymwreiddio yn natblygiad a chymhwysiad deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg ddigidol 

Ein nod hirdymor:

Sicrhau bod darparwyr gwasanaeth a rheoleiddwyr eraill yn sicrhau nad yw arloesiadau mewn AI yn achosi bod pobl yn profi gwahaniaethu na thramgwydd o’u hawliau dynol. Mae hyn yn sgil rheoliadau cadarn ac oherwydd bod darparwyr gwasanaeth a’r rhai sy’n dal dyletswyddau yn ymwybodol o’r peryglon.  

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn rhoi tystiolaeth o’r materion trwy:

  • ddadansoddi’r peryglon yn sgil defnydd yr heddlu o dechnoleg adnabod wynebau 
  • gweithio gyda’r Ganolfan Moeseg Data ac Arloesedd i ddatblygu teclyn er mwyn profi ar gyfer tuedd algorithmig 

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • weithio gyda llywodraethau, rheoleiddwyr eraill a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol wrth galon rheoleiddio AI, gan gynnwys trwy ddylanwadu ar y Papur Gwyn ar Reoleiddio AI a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol  

Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau trwy:

  • sefydlu safonau ar y cyd a memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda rheoleiddwyr a phartneriaid er mwyn lleihau’r perygl o wahaniaethu yn sgil y defnydd o AI, adnabod cyfleoedd gweithio ar y cyd ac ennyn gwell diffiniad o’n rôl rheoleiddio
  • dilyn i fyny ar ein gwaith PSED ar sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio AI i hyrwyddo ein canfyddiadau, ystyried gwaith gorfodi ac adnabod cyfleoedd i datblygu adnoddau er mwyn hysbysu cynghorau ac eraill. 
Colorful software or web code on a computer monitor