Meithrin perthnasau da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
Gall yr ymdeimlad nad yw pobl yn cael eu trin yn gyfartal neu'n deg greu rhaniad rhwng unigolion a chymunedau. Gall trafodaeth gyhoeddus gynhennus, wedi'i chwyddo gan y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol, atgyfnerthu rhagfarn a rhannu cymunedau.
Ein gwaith
Ymchwiliad i Pontins
Yn 2022, fe wnaethom lansio ymchwiliad ffurfiol i barciau gwyliau Pontins oherwydd pryderon parhaus ynghylch gwahaniaethu yn erbyn Sipsiwn a Theithwyr. Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben yn ddiweddarach eleni pan fyddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau.
Cefnogi achosion gwahaniaethu ar sail hil – Rico Quitongo
Fe wnaethom gyd-ariannu achos gwahaniaethu ar sail hil Rico Quitongo yn erbyn ei gyn glwb a chyfarwyddwr clwb gydag undeb pêl-droedwyr proffesiynol yr Alban (PFA Scotland).
Cefnogi achosion gwahaniaethu ar sail hil – Rose Quarcoo
Fe wnaethom ariannu gwrandawiad terfynol achos gwahaniaethu ar sail hil a gafodd ei setlo gan Weinidogion yr Alban gyda gwas sifil a heriodd ei thriniaeth yn y gweithle.
Cynllun busnes
2023/24
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth meithrin cysylltiadau da rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.
Annog ysgolion a chyrff addysgol i hyrwyddo gwerth cydraddoldeb a hawliau dynol a pharch at eraill
Ein nod hirdymor:
Bod bwlio, camdriniaeth ac aflonyddu’n cael eu lleihau, a bod pobl ifanc yn trafod materion hunaniaeth a chydraddoldeb mewn modd sy’n dangos parch.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- weithio gyda’r llywodraeth a rheoleiddwyr er mwyn hysbysu safonau cydraddoldeb a hawliau dynol mewn lleoliadau addysgol
- diweddaru ein canllawiau yn dilyn newidiadau deddfwriaethol o’r Bil Addysg Uwch (Rhyddid i Lefaru), gan weithio gyda phartneriaid yn cynnwys y Swyddfa Fyfyrwyr
- cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad arweiniad trawsryweddol ac LGB i ysgolion
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ymateb i arweiniad trawsryweddol arfaethedig yr Adran Addysg i ysgolion
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol er mwyn hyrwyddo gwerth cydraddoldeb a hawliau dynol, a pharch at eraill, mewn ysgolion a lleoliadau addysgol
Gweithio gyda sefydliadau chwaraeon a darparwyr gwasanaeth penodol er mwyn hyrwyddo parch at eraill ac atal rhagfarn
Ein nod hirdymor:
Cefnogi pobl o wahanol gefndiroedd i ryngweithio’n gadarnhaol a lleihau rhagfarn trwy well arferion mewn sefydliadau chwaraeon.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- adnabod cyfleoedd i ddilyn i fyny ar waith y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn ymwneud â chydraddoldeb ar sail rhyw mewn pêl-droed
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- weithio gyda’r llywodraeth a rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban er mwyn datblygu cynllun i adnabod a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn chwaraeon
- parhau i weithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru er mwyn gweithredu gweithgarwch a gynlluniwyd i leihau gwahaniaethu
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol er mwyn hyrwyddo parch at eraill ac atal rhagfarn o fewn sefydliadau chwaraeon a darparwyr gwasanaeth penodol
Chwarae rhan flaengar mewn trafodaethau cyhoeddus yn ymwneud â materion cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys cydbwyso hawliau
Ein nod hirdymor:
Cefnogi pobl o wahanol gefndiroedd i ryngweithio’n gadarnhaol a lleihau rhagfarn yn sgil gwell arferion gan ddarparwyr gwasanaeth.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- weithio gyda chyrff cyhoeddus i gynghori ar faterion yn ymwneud â nodwedd warchodedig rhyw
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ddilyn i fyny gyda darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ar ein harweiniad i ddefnyddwyr gwasanaeth ar fannau un rhyw
- parhau i fynd i’r afael â gwahaniaethu honedig gan barciau gwyliau yn erbyn rhai unigolion â nodweddion gwarchodedig, cyfathrebu ein gweithredoedd â darparwyr gwasanaeth eraill
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol er mwyn hyrwyddo cydbwysedd hawliau