Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion, y mae'r pandemig wedi ychwanegu'n sylweddol atynt. Gall yr heriau hyn arwain at fynediad anghyfartal at driniaeth a thorri hawliau dynol a gallu pobl i fyw'n annibynnol.

person writing on white notebook

Ein gwaith

Smiling person next to text which reads 'Challenging adult social care decisions in England and Wales

System ar gyfer herio penderfyniadau gofal cymdeithasol ‘methu’r rhai sydd ei angen’

Yn 2023, cyhoeddwyd canfyddiadau ac argymhellion ein hymchwiliad i brofiadau defnyddwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr sydd wedi herio penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol.

man wearing surgical suit near mirror

Anghydraddoldeb wrth drin ‘arwyr Covid’ lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Yn 2022, cyhoeddwyd canfyddiadau ein hymchwiliad a oedd yn archwilio profiadau gweithwyr o amrywiaeth o leiafrifoedd ethnig a gyflogir mewn rolau â chyflog is yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

group of fresh graduates students throwing their academic hat in the air

Tynnu sylw at y rhwystrau a wynebir gan y rhai sy’n herio penderfyniadau gofal cymdeithasol yn yr Alban

Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi ymchwil newydd a ddangosodd fod rhai oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn yr Alban yn ansicr ynghylch sut i herio penderfyniadau am eu gofal.

person sitting while using laptop computer and green stethoscope near

Honiadau am gam-drin pobol yn Uned Iechyd Meddwl Canolfan Edenfield

Fe wnaethom ymateb i honiadau a ddangoswyd gan BBC Panorama ar 28 Medi am driniaeth pobl yn Uned Iechyd Meddwl Canolfan Edenfield, yn Prestwich.

empty hospital bed inside room

Cynllun Building Better Support yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Fe wnaethom ymateb i gynllun Building Better Support yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynd i’r afael â nifer y cleifion sy’n cael eu cadw’n amhriodol mewn ysbytai diogel.

babys hand on human palm

Cydraddoldeb a hawliau dynol mewn gofal cymdeithasol

Fe sefydlom sut i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o ofal cymdeithasol, gan arwain y broses o wneud penderfyniadau yn y sector, yn ogystal â diwygiadau.

Cynllun busnes
2023/24

Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024.

Hyrwyddo hawliau mewn perthynas â’r ymdriniaeth o bobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Ein nod hirdymor:

Sicrhau bod pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl yn medru cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mewn modd nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn neu’n tramgwyddo’u hawliau.

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:

  • ymateb i ymchwiliadau COVID-19 y DU a’r Alban lle bo gofyn

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • herio’r defnydd amhriodol o gadwad mewn sefydliadau
  • cynghori ynghylch datblygiad y Bil Diwygiadau Iechyd Meddwl trwy gyngor i Lywodraeth y DU a dylanwadu ar gynigion Llywodraeth yr Alban mewn ymateb i argymhellion gan yr Adolygiad o Gyfraith Iechyd Meddwl yr Alban 
  • datblygu cynigion i ymateb i faterion hawliau dynol mewn lleoliadau gofal preifat yng Nghymru a Lloegr

Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:

  • ddatblygu memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r Ombwdsmon Llywodraeth leol a Gofal Cymdeithasol er mwyn hwyluso rhannu gwybodaeth ac atgyfeirio achosion strategol     

Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:

  • adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo hawliau mewn perthynas â’r ymdriniaeth o bobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
two men laughing at each other

Hyrwyddo hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn cefnogi byw’n annibynnol

Ein nod hirdymor:

Gwella gallu unigolion i gael mynediad i’r gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt mewn modd nad yw’n gwahaniaethu yn eu herbyn nac yn tramgwyddo’u hawliau trwy gynghori’r rheini sy’n datblygu systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • gynghori llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban ynghylch goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol cynllunio systemau gofal cymdeithasol

Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:

  • gynghori ynghylch gwelliant Cydbwyllgorau Integreiddio yn yr Alban, a thrwy weithio gyda’r Arolygiaeth Gofal i ymwreiddio materion cydraddoldeb yn eu fframweithiau arolygu, gan gynnwys trwy’r defnydd o’r PSED

Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:

  • adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn cefnogi byw’n annibynnol  
woman standing near person in wheelchair near green grass field

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad i wasanaethau iechyd 

Ein nod hirdymor:

Adnabod, a lleihau, rhwystrau i bobl â nodweddion gwarchodedig penodol dderbyn y gofal iechyd sydd ei angen arnynt mewn ffyrdd nad ydynt yn tramgwyddo’u hawliau nac yn gwahaniaethu yn eu herbyn.

Sut byddwn yn gwneud hynny:

Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy gynllunio gwaith i:

  • fynd i’r afael â rhwystrau mewn mynediad i ofal iechyd i bobl LGBT gyda ffocws ar fynd i’r afael â bylchau data
  • deall y materion ac adnabod cyfleoedd i wella mynediad i ofal iechyd i bobl anabl

Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:

  • weithio gyda’r GIG a rheoleiddwyr iechyd i adnabod ymyriadau posibl i fynd i’r afael â’r nifer anghymesur o farwolaethau ymysg pobl â nodweddion gwarchodedig penodol mewn gwasanaethau mamolaeth

Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:

  • ddarparu hyfforddiant a chyngor i gryfhau’r defnydd o PSED mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar draws Lloegr

Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:

  • adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad i wasanaethau iechyd a gofal, a herio tramgwyddo hawliau mewn sefydliadau iechyd a gofal, mewn lleoliadau acíwt a lleoliadau cymunedol
man and woman sitting on bench facing sea