Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion, y mae'r pandemig wedi ychwanegu'n sylweddol atynt. Gall yr heriau hyn arwain at fynediad anghyfartal at driniaeth a thorri hawliau dynol a gallu pobl i fyw'n annibynnol.
![person writing on white notebook](./assets/5RZzqLjP7W/sh-unsplash_ltnvqhdkkmw-4096x2731.jpg)
Ein gwaith
![Smiling person next to text which reads 'Challenging adult social care decisions in England and Wales](./assets/b5n5M9YvKo/inquiry-challenging-adult-social-care-decisions-in-england-and-wales-report-cover-620x520.png)
System ar gyfer herio penderfyniadau gofal cymdeithasol ‘methu’r rhai sydd ei angen’
Yn 2023, cyhoeddwyd canfyddiadau ac argymhellion ein hymchwiliad i brofiadau defnyddwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr sydd wedi herio penderfyniadau a wnaed gan awdurdodau lleol.
![man wearing surgical suit near mirror](./assets/ln591hZqaR/sh-unsplash_kjwzxh6jins-4096x2730.jpg)
Anghydraddoldeb wrth drin ‘arwyr Covid’ lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Yn 2022, cyhoeddwyd canfyddiadau ein hymchwiliad a oedd yn archwilio profiadau gweithwyr o amrywiaeth o leiafrifoedd ethnig a gyflogir mewn rolau â chyflog is yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
![group of fresh graduates students throwing their academic hat in the air](./assets/ckfjzSlzmN/sh-unsplash_8cqdvpuo_ki-2626x1751.jpg)
Tynnu sylw at y rhwystrau a wynebir gan y rhai sy’n herio penderfyniadau gofal cymdeithasol yn yr Alban
Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi ymchwil newydd a ddangosodd fod rhai oedolion sy’n derbyn gofal cymdeithasol yn yr Alban yn ansicr ynghylch sut i herio penderfyniadau am eu gofal.
![person sitting while using laptop computer and green stethoscope near](./assets/ySgrmsROXZ/sh-unsplash_nfvdkihxylu-4096x2731.jpg)
Honiadau am gam-drin pobol yn Uned Iechyd Meddwl Canolfan Edenfield
Fe wnaethom ymateb i honiadau a ddangoswyd gan BBC Panorama ar 28 Medi am driniaeth pobl yn Uned Iechyd Meddwl Canolfan Edenfield, yn Prestwich.
![empty hospital bed inside room](./assets/GHi5cPE3BY/sh-unsplash_zbpgmge27p8-2953x1847.jpg)
Cynllun Building Better Support yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Fe wnaethom ymateb i gynllun Building Better Support yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i fynd i’r afael â nifer y cleifion sy’n cael eu cadw’n amhriodol mewn ysbytai diogel.
![babys hand on human palm](./assets/uZLtgscsc5/sh-unsplash_odihqypcuuk-4096x2730.jpg)
Cydraddoldeb a hawliau dynol mewn gofal cymdeithasol
Fe sefydlom sut i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o ofal cymdeithasol, gan arwain y broses o wneud penderfyniadau yn y sector, yn ogystal â diwygiadau.
Cynllun busnes
2023/24
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024.
Hyrwyddo hawliau mewn perthynas â’r ymdriniaeth o bobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Ein nod hirdymor:
Sicrhau bod pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl yn medru cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mewn modd nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn neu’n tramgwyddo’u hawliau.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- ymateb i ymchwiliadau COVID-19 y DU a’r Alban lle bo gofyn
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- herio’r defnydd amhriodol o gadwad mewn sefydliadau
- cynghori ynghylch datblygiad y Bil Diwygiadau Iechyd Meddwl trwy gyngor i Lywodraeth y DU a dylanwadu ar gynigion Llywodraeth yr Alban mewn ymateb i argymhellion gan yr Adolygiad o Gyfraith Iechyd Meddwl yr Alban
- datblygu cynigion i ymateb i faterion hawliau dynol mewn lleoliadau gofal preifat yng Nghymru a Lloegr
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ddatblygu memorandwm o ddealltwriaeth gyda’r Ombwdsmon Llywodraeth leol a Gofal Cymdeithasol er mwyn hwyluso rhannu gwybodaeth ac atgyfeirio achosion strategol
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo hawliau mewn perthynas â’r ymdriniaeth o bobl mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
![two men laughing at each other](./assets/XsOCkkG4io/sh-unsplash_fhijwobodrs-4096x2734.jpg)
Hyrwyddo hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn cefnogi byw’n annibynnol
Ein nod hirdymor:
Gwella gallu unigolion i gael mynediad i’r gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt mewn modd nad yw’n gwahaniaethu yn eu herbyn nac yn tramgwyddo’u hawliau trwy gynghori’r rheini sy’n datblygu systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori llywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban ynghylch goblygiadau cydraddoldeb a hawliau dynol cynllunio systemau gofal cymdeithasol
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- gynghori ynghylch gwelliant Cydbwyllgorau Integreiddio yn yr Alban, a thrwy weithio gyda’r Arolygiaeth Gofal i ymwreiddio materion cydraddoldeb yn eu fframweithiau arolygu, gan gynnwys trwy’r defnydd o’r PSED
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn cefnogi byw’n annibynnol
![woman standing near person in wheelchair near green grass field](./assets/pZ12l8jK8a/sh-unsplash_0nkfvdcm-x4-3975x2981.jpg)
Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad i wasanaethau iechyd
Ein nod hirdymor:
Adnabod, a lleihau, rhwystrau i bobl â nodweddion gwarchodedig penodol dderbyn y gofal iechyd sydd ei angen arnynt mewn ffyrdd nad ydynt yn tramgwyddo’u hawliau nac yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy gynllunio gwaith i:
- fynd i’r afael â rhwystrau mewn mynediad i ofal iechyd i bobl LGBT gyda ffocws ar fynd i’r afael â bylchau data
- deall y materion ac adnabod cyfleoedd i wella mynediad i ofal iechyd i bobl anabl
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- weithio gyda’r GIG a rheoleiddwyr iechyd i adnabod ymyriadau posibl i fynd i’r afael â’r nifer anghymesur o farwolaethau ymysg pobl â nodweddion gwarchodedig penodol mewn gwasanaethau mamolaeth
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ddarparu hyfforddiant a chyngor i gryfhau’r defnydd o PSED mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar draws Lloegr
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad i wasanaethau iechyd a gofal, a herio tramgwyddo hawliau mewn sefydliadau iechyd a gofal, mewn lleoliadau acíwt a lleoliadau cymunedol
![man and woman sitting on bench facing sea](./assets/Jz0XuEhK9q/sh-unsplash_78htqvjyms4-4064x2710.jpg)