Cydraddoldeb mewn gweithle sy’n newid
Mae'r economi a'n gweithleoedd wedi wynebu cynnwrf yn ystod y pandemig. Mae newidiadau i natur gwaith, gan gynnwys symud yn sydyn i weithio gartref i lawer, a chynyddu awtomeiddio, wedi creu heriau i bobl mewn perthynas ag amodau, cyflog a dilyniant yn y gweithle.

Ein gwaith

Atal aflonyddu rhywiol yn y sector lletygarwch
Yn 2022, gwnaethom weithio mewn partneriaeth ag UK Hospitality i gynhyrchu adnodd ymarferol yn amlinellu’r camau y gall cyflogwyr eu cymryd i atal aflonyddu ar staff lletygarwch rhag cael ei weld fel ‘rhan o’r swydd’. Er iddo gael ei gynllunio ar gyfer y sector lletygarwch, gellir cymhwyso ei egwyddorion i sectorau eraill.

Adrodd ar gydymffurfiad â bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaethom enwi’r sefydliadau hynny nad oeddent eto wedi adrodd ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau, nac yn adrodd eu bod y tu allan i’r cwmpas. Yn dilyn hyn, adroddodd pob un o'r sefydliadau hynny y gwnaethom ysgrifennu atynt ar ôl y terfynau amser eu gwybodaeth bwlch cyflog.

Cytundeb cyfreithiol McDonald’s
Yn gynnar yn 2023, fe wnaethom lofnodi cytundeb cyfreithiol gyda McDonald’s Restaurants Limited mewn ymateb i bryderon am y modd yr ymdriniwyd â chwynion aflonyddu rhywiol a wnaed gan staff yn ei fwytai yn y DU.

Cytundeb cyfreithiol IKEA UK
Ym mis Mawrth 2023, daethom i gytundeb cyfreithiol ag IKEA UK, i wella ei bolisïau a’i arferion mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol.

Dyfarniad ar Ms M Glover v Lacoste
Ym mis Chwefror 2023, bu Melissa Glover yn llwyddiannus yn ei hapêl yn erbyn ei chyn gyflogwr a ariannwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae ei hachos yn dilyn cais gweithio hyblyg a wnaeth tra ar absenoldeb mamolaeth, a wrthodwyd gan ei chyflogwr, Lacoste, ar y sail bod yn rhaid i staff rheoli weithio’n llawn amser a bod yn gwbl hyblyg.

Cytundeb cyfreithiol Sainsbury’s
Ym mis Ebrill 2022, cwblhawyd ein cytundeb cyfreithiol gyda Sainsbury’s i gymryd pob cam rhesymol i atal ei weithwyr rhag aflonyddu. Gwnaethom fonitro cydymffurfiad Sainsbury’s â’r cynllun gweithredu i sicrhau bod y camau y cytunwyd arnynt yn cael eu cwblhau.

Cytundeb cyfreithiol National Highways
Ym mis Ebrill 2022, cwblhawyd ein cytundeb cyfreithiol gyda National Highways i sicrhau eu bod wedi cymryd y camau angenrheidiol i atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd yn y dyfodol. Gwnaethom fonitro cydymffurfiad National Highways â’r cynllun gweithredu i sicrhau bod y camau y cytunwyd arnynt yn cael eu cwblhau.
Cynllun busnes 2023/24
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth Cydraddoldeb mewn gweithle sy’n newid o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024.
Mynd i’r afael â gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth a thramgwyddo hawliau dynol yn y gweithle
Ein nod hirdymor:
Sicrhau y gall gweithwyr a darpar weithwyr weithio heb brofi gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu oherwydd bod cyflogwyr yn gwybod sut i’w hatal a mynd i’r afael â hwy.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- gefnogi gwaith ymchwil ynglŷn â gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gweithle
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- weithio gyda chyflogwyr a rheoleiddwyr i ennyn dealltwriaeth bellach o wahaniaethu a thramgwyddo hawliau yn y gwasanaethau mewn lifrai
- darparu cyngor i’r senedd a’r llywodraeth ar ymrwymiadau hirdymor i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle
- darparu cyngor yn ystod hynt y Bil Amddiffyniad rhag Diswyddo (Absenoldeb Beichiogrwydd a Theulu). Bydd hyn yn cynyddu amddiffyniadau yn erbyn penderfyniadau diswyddo annheg i fenywod beichiog a rhieni newydd
- cynhyrchu deunydd i wella’r ddealltwriaeth o, a’r ymateb i, y menopos yn y gweithle
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- barhau i ledaenu ein rhestr wirio atal aflonyddu rhywiol a gwerthuso’i effaith
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- gymryd camau cyfreithiol lle bo’n briodol er mwyn amddiffyn gweithwyr a darpar weithwyr rhag gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu

Gweithredu ar fylchau mewn cyfraddau cyflogaeth a thalu am wahanol grwpiau nodweddion gwarchodedig
Ein nod hirdymor:
Lleihau bylchau tâl a chyflogaeth i fenywod, lleiafrifoedd ethnig a gweithwyr anabl.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dwyn tystiolaeth o’r materion trwy:
- werthuso effeithlonrwydd adrodd ar fylchau cyflog wrth leihau bylchau cyflog. Byddwn yn datblygu ein methodoleg ymhellach er mwyn adnabod a mynd i’r afael â data amheus
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori llywodraethau ledled Prydain ynglŷn â chyfleoedd i fynd i’r afael â bylchau cyflog a chyflogaeth
- cefnogi Hwb Cydraddoldeb y Llywodraeth mewn perthynas â’r peilot tryloywder cyflog yn Lloegr. Mae hyn yn annog cyflogwyr i gynnwys, lle bo’n bosibl, gwybodaeth ynglŷn â chyflog ar bob hysbyseb swydd
- cynghori ynglŷn â hynt y Bil Cysylltiadau Cyflogaeth (Gweithio Hyblyg) trwy’r Senedd. Bydd hyn yn cynyddu mynediad cyflogeion i weithio hyblyg. Byddwn yn cynghori ynghylch mesurau i hyrwyddo gweithio hyblyg.
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- weithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion adrodd ynghylch bylchau cyflog rhwng y rhywiau a’u bod yn adnabod ffyrdd o leihau eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- ddefnyddio ein hysgogiadau a’n pwerau i sicrhau bod cyflogwyr yn cydymffurfio ag adrodd ynghylch bylchau cyflog rhwng y rhywiau

Cynghori ynglŷn â mesurau i ailadeiladu economïau yn dilyn y pandemig coronafeirws (COVID-19) er mwyn gwella cydraddoldeb cyfleoedd i grwpiau o dan anfantais
Ein nod hirdymor:
Galluogi gweithleoedd i’r dyfodol sy’n deg a chynhwysol a sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiad a gweithrediad y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
- cynghori Llywodraeth Cymru ynglŷn â hawliau dynol a chydraddoldebau wrth iddynt weithredu yn erbyn argymhellion gan adroddiad Gwaith Teg Cymru.
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- fonitro’r argymhellion o’n hymchwiliad i staff o leiafrifoedd ethnig ar gyflog isel mewn iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban
