Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
Mae gormod o blant a phobl ifanc ym Mhrydain yn wynebu gwahaniaethu a rhwystrau i gyfle, o ragfarn neu ddiffyg cefnogaeth briodol mewn lleoliadau addysg i fynediad anghyfartal i waith. Mae'r pandemig wedi gwaethygu llawer o'r materion hyn.

Ein gwaith

Atal gwahaniaethu ar sail gwallt mewn ysgolion
Yn 2022, fe wnaethom gyhoeddi adnoddau newydd – a gymeradwywyd gan Ddiwrnod Affro y Byd a’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol mewn Addysg – i helpu arweinwyr ysgolion i sicrhau nad yw polisïau gwallt neu steiliau gwallt yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon.

Rhaid gwneud mwy i amddiffyn hawliau plant
Cyhoeddwyd ein hadroddiad diweddaraf ar gyfer y Cenhedloedd Unedig (CU) yn amlinellu cyflwr hawliau plant ym Mhrydain. Mae’r adroddiad yn rhan o system y Cenhedloedd Unedig ar gyfer monitro’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, cytuniad a lofnodwyd gan y DU ym 1991. Codwyd pryderon gennym am addysg i blant ym Mhrydain.

Galwad ar y cyd i golegau a phrifysgolion yr Alban fynd i’r afael ag anghydraddoldebau
Yn 2023, buom yn gweithio gyda Chyngor Cyllido’r Alban (SFC) i nodi’r anghydraddoldebau mwyaf parhaus yng ngholegau a phrifysgolion yr Alban a pharatoi’r ffordd ar gyfer eu dileu.
Cynllun busnes
2023/24
Mae’r cynllun busnes hwn yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud o dan y flaenoriaeth cydraddoldeb i blant a phobl ifanc rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.
Gweithio gyda rheoleiddwyr a llywodraethau i fynd i’r afael ag unrhyw effeithiau anghymesur o ddigwyddiadau allanol ar ddeilliannau addysgol i blant a phobl ifanc o bob cefndir
Ein nod hirdymor:
Lleihau effaith anghymesur digwyddiadau ehangach ar ddeilliannau addysgol i blant a phobl ifanc.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gyhoeddi a hyrwyddo canllawiau ar gwrdd â chostau darparu newidiadau rhesymol i ymgeiswyr anabl mewn arholiadau preifat
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynghori ar ei gwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau addysgol, gan gynnwys trwy sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol wedi eu hymwreiddio i weithrediad y cwricwlwm newydd yng Nghymru
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ddefnyddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) i annog cydraddoldeb cyfle yn natblygiad a chyflawniad polisïau a rhaglenni addysgol
- hyrwyddo arweiniad PSED i ysgolion er mwyn cynyddu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd

Cymryd camau cyfreithiol i fynd i’r afael â thramgwyddo hawliau plant mewn lleoliadau sefydliadol
Ein nod hirdymor:
Amddiffyn a chynnal hawliau plant a phobl ifanc mewn lleoliadau sefydliadol gyda llai o dramgwyddo’u hawliau.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- ddylanwadu ar Lywodraethau Cymru a’r DU ac eraill ar weithredu argymhellion a wnaed gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- hyrwyddo a diogelu hawliau plant mewn lleoliadau sefydliadol
- cynghori llywodraethau Cymru, y DU a’r Alban ar bolisïau ym maes addysg a lleoliadau sefydliadol yn ymwneud â derbyniadau, gwaharddiadau, ymddygiad ac ataliaeth
- ymgysylltu â’r Adran Addysg i hyrwyddo argymhellion ein Ymchwiliad Ataliaeth yn Lloegr yn 2021
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn yr Alban i sicrhau cydymffurfiaeth PSED â chanllawiau ataliaeth wedi’u diweddaru
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i hyrwyddo a diogelu hawliau plant mewn lleoliadau sefydliadol

Mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn gwaharddiadau, polisïau ymddygiad a methiannau i wneud newidiadau rhesymol er mwyn gwella deilliannau addysgol i bobl â nodweddion gwarchodedig
Ein nod hirdymor:
Gwella deilliannau addysgol i grwpiau mewn perygl gyda chynnydd mewn cyfranogiad addysgol yn y grwpiau hynny.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori Llywodraeth y DU ynghylch y nifer cynyddol o absenoldebau cyson mewn ysgolion a dylanwadu arnynt i sicrhau polisïau sy’n cydymffurfio â’r PSED
Byddwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau trwy:
- gwblhau hyfforddiant ar gyfer llinell gymorth cynghori Enquire yn yr Alban. Bydd hyn yn cynyddu gwybodaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol.
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol er mwyn hyrwyddo hawliau plant a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn lleoliadau addysgol

Mynd i’r afael â rhwystrau i hyfforddiant a chyfleoedd gwaith cyfartal i bobl ifanc
Ein nod hirdymor:
Cynyddu’r gyfradd o bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig penodol sydd mewn cyflogaeth. Hefyd lleihau cynnydd hyfforddiant gwahanu galwedigaethol.
Sut byddwn yn gwneud hynny:
Byddwn yn dylanwadu ar osod safonau trwy:
- gynghori llywodraethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn gwella mynediad i brentisiaethau a chefnogaeth cyflogaeth, a lleihau gwahanu sefydliadol, i bobl ifanc a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
- darparu cyngor ynglŷn â sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.
Byddwn yn gorfodi’r gyfraith trwy:
- adnabod cyfleoedd i gymryd camau cyfreithiol i fynd i’r afael â rhwystrau i gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth cyfartal i bobl ifanc
